BEAM; gweithdai'r prynhawn Sadwrn / Saturday afternoon workshops

Saturday, September 20, 2014 – Sunday, September 21, 2014
Canolfan Conway / Conway Centre, Ynys Môn / Anglesey, United Kingdom

BEAM; gweithdai'r prynhawn Sadwrn / Saturday afternoon workshops

Saturday, September 20, 2014 – Sunday, September 21, 2014
Canolfan Conway / Conway Centre, Ynys Môn / Anglesey, United Kingdom

What you need to know

Gweithdai’r prynhawn

Mae'r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim i'r rhai sydd eisoes wedi bwcio lle ar yr Arbrawf Mawr, ond os nad 'dych chi'n rhan ohono, peidiwch a cholli cyfle euraidd!
Mae croeso i chi ymuno â ni rhwng 2.00 a 4.15

DYDD SADWRN 2.00-3.00

• Beth i wneud gyda'r alaw ar ôl ei ddysgu?
Gweithdy i unrhyw offeryn. Bydd Stacey Blythe yn trafod alawon a chaneuon ac yn adeiladu trefniannau; yn dewis cordiau a harmonïau, llon/lleddf, ac yn chwarae o gwmpas gydag arwyddion amser a chyflymderau.
• Techneg canu i'r rhai sy'n canu gwerin    
Bydd Bethan Nia yn cyflwyno ymarferion llais syml a fydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i dôn a chwmpas eich llais.
• Dawns y Glocsen i bawb  
Gweithdy gyda Huw Williams. Croeso i ddechreuwyr pur a'r rhai profiadol. Bydd ambell bâr o glocsiau ar gael i'w benthyg.
• Profwch y Pibau 
Gweithdy blasu i gyflwyno’r traddodiad pibydda Cymreig, yng nghwmni Antwn Owen-Hicks o Garreg Lafar. Bydd ambell set o bibau ar gael ond mae’r nifer yn gyfyngedig.
• Blas ar y delyn deires
Mae Meinir Williams, sy'n astudio gyda Robin Huw Bowen, yn cynnig blas ar ei thelyn deires

DYDD SADWRN 3.15-4.15

• Chwarae ar gyfer ddawnsio
Gyda Neil Browning o Never Mind The Bocs. Bydd cyfle i chwarae yn y twmpath nos Sadwrn.
• Cerdd Dant i bawb
Bydd Gwenan Gibbard yn arwain sesiwn i drafod y ffurf unigryw hon o ganu Cymreig i gyfeiliant y delyn. Croeso i ddechreuwyr.
• Profi ddawns werin Gymreig
Gweithdy profi ambell i ddawns, gyda Rhodri a Chris Jones. 
• Mari Lwyd
Bydd Angharad Jenkins yn bwrw golwg ar draddodiad canol gaeaf y Fari Lwyd – ei ganeuon, ei gymeriadau a’i ymgorfforiadau modern, gan gynnwys Mari pac-fflat trac.

 

Bydd rhain yn agored i’r cyhoedd, a chofiwch bod gweithdai ac hyfforddiant byrfyfyr wastad yn dueddol o ymddangos fel petai ar hap hefyd!


Afternoon workshops

These workshops are free to participants already booked on The Big Experiment, but if that's not you, then don't miss out.
You're welcome to join us between 2.00 and 4.15 for a choice of workshops ranging from tasters to masterclasses. These are open to the public, and impromptu workshops always seem to pop up too! 

SATURDAY 2.00 - 3.00

• What do you do with a tune once you've learnt it?

A workshop for any instrument. Stacey Blythe will look at tunes and songs and build an arrangement: choosing chords and harmonies, major/minor, and playing around with time signatures and speeds.

• Vocal technique for traditional singers

Bethan Nia with some simple vocal exercises to dramatically improve tone and range.

 • Clogging for all

Absolute beginners and more experienced cloggers are welcome at this session with Huw Williams. Some clogs will be available to borrow.

• Have a go at pipes

A taster workshop on the Welsh bagpipe tradition, with Antwn Owen-Hicks of Carreg Lafar. Some sets of pipes are available but numbers will be limited.

• Have a go on the Triple Harp

Robin Huw Bowen's student Meinir Williams offers a taster session on her triple harp. 

 

 SATURDAY 3.15 - 4.15

• Playing for dancing

A workshop for all instruments with Neil Browning of Never Mind the Bocs. Join in and maybe play in the twmpath in the evening.

 • Cerdd Dant for all 

 Gwenan Gibbard leads a session on this unique Welsh song form accompanied by the harp. Beginners welcome.

 • Have a go at Welsh folk dance

With Rhodri and Chris Jones.

• The Mari Lwyd     

Angharad Jenkins with a look at the midwinter Mari Lwyd tradition, including trac's fflat-pack Mari.



Location

Canolfan Conway / Conway Centre
Llanfairpwll, Ynys Môn / Anglesey, LL61 6DJ United Kingdom

Cyrraedd yn y car?

Y cyfeiriad llawn yw: Canolfan Conway, Llanfairpwll, Sir Fôn, LL61 6DJ.

Croeswch Pont Menai a throwch i’r chwith i’r A5, Heol Caergybi. Cymerwch yr ail dro ar y chwith i’r A4080, Heol Brynsiencyn ac yna’r trydydd tro ar y chwith i stâd Plas Newydd. Mae arwyddion brown (twristaidd) i Blas Newydd. Mae Canolfan Conwy ar y chwith.


Arriving by car?

The full address is Conway Centre, Llanfairpwll, Anglesey, LL61 6DJ.

Cross the Menai Bridge and go left onto the A5, Holyhead road. Take the second left onto the A4080, Brynsiencyn Road then third left into the Plas Newydd estate. Plas Newydd is signed with brown tourist signs. The Conway Centre is to the left.

When

  • Saturday, September 20, 2014 2:00 PM
  • Ends Sunday, September 21, 2014 4:15 PM
  • Timezone: Unknown Region (UTC) Time
  • Add to calendar

Share