Thursday, September 25, 2025 – Sunday, September 28, 2025
National Trust Stackpole Outdoor Learning Centre, Stackpole, United Kingdom
Thursday, September 25, 2025 – Sunday, September 28, 2025
National Trust Stackpole Outdoor Learning Centre, Stackpole, United Kingdom
*Scroll for English*
Ar ôl llwyddiant ysgubol ein Ffidil Fawr gyntaf erioed, rydyn ni’n ôl eleni gyda dathliad enfawr arall o'r traddodiad Ffidil Cymreig.
Wedi’i chynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyma’ch cyfle i chwarae, dysgu, a chysylltu ag eraill sy’n caru’r traddodiad hwn ac sydd â brwdfrydedd i fynd yn ôl at wreiddiau’r cerddoriaeth.
Fel eich gwesteiwyr, rydym ni; VRï, y triawd siambr-werin aml-wobrwyol o Gymru, yn edrych ymlaen yn arw i rannu ein cariad at y gerddoriaeth hon gyda chi. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn hwyluso chwarae llinynnol traddodiadol Cymreig i bawb. Mae ein dulliau dysgu’n glir, yn gefnogol, ac yn addas i’ch helpu chi ddatblygu technegau newydd a magu hyder, waeth beth fo’ch pwynt cychwyn.
Bydd y cwrs yn digwydd rhwng dydd Iau 25ain a dydd Sul 28ain Medi 2025.
Mae’r cwrs ar agor i chwaraewyr llinynnol o bob lefel o brofiad; felly, boed eich bod yn ffidlwr werin profiadol, wedi chwarae cerddoriaeth o genres eraill ac erioed wedi eisiau rhoi cerddoriaeth draddodiadol cynnig, neu os ydych chi'n newydd ddechrau chwarae’ch ffidil, mae’r penwythnos hwn yn un i chi! Bydd y dysgu’n cael ei wneud yn bennaf ar y glust, ond bydd cerddoriaeth ysgrifenedig ar gael ar gyfer pob elfen o’r cwrs ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno darllen.
Allan o'r To - Angharad Jenkins: Perffaith ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sy’n adeiladu hyder, mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar yr hanfodion i ddechrau’ch taith ffidil.
Tradd ar Agor - Aneirin Jones: Archwiliwch alawon Cymreig traddodiadol gyda technegau creadigol, chwarae mynegiannol, a ffocws ar ddyfnder arddull.
Pencerdd y Ffidil: Y Traddodiad Cymreig - Patrick Rimes: Hyfforddiant i chwaraewyr uwch, mae’r dosbarth hwn yn ymdrin â darnau cymhleth, cyflawni arddull, a sgiliau byrfyfyrio.
Soddgrwth: Bydd y dosbarth hwn yn archwilio technegau ysbrydolwyd gan y ffidil fel patrymau bwa yn llifo ac addurno alawon, gan ychwanegu nodwedd Gymreig i’ch chwarae.
*Amlinellir ein telerau ac amodau ar ddiwedd y system archebu. Mae'n amlinellu rhai amodau cyffredinol ond hefyd ein polisi ad-daliad, felly gwnewch yn siŵr ei ddarllen.*
Ffidil Fawr means 'big fiddle'...
After a resoundingly successful first ever Ffidil Fawr we're back this year with another joyous celebration of Welsh traditional string playing.
Held in the stunning Pembrokeshire Coast National Park, this is your chance to play, learn, and connect with fellow musicians who share a love for traditional string playing and a passion for exploring its roots.
As your hosts, we—VRï, Wales’ multi-award-winning chamber-folk trio—are excited to share our passion for this music. We pride ourselves on making Welsh traditional string playing approachable for all. Our teaching methods are clear, supportive, and designed to guide you through learning new techniques and building confidence, no matter your starting point.
The course will take place Thursday 25th to Sunday 28th of September 2025.
The course is open to any and all string players of any experience; so whether you’re a seasoned folk fiddler, have played other genres and always wanted to give traditional music a go or want to get your teeth into your fiddle for the first time, this is absolutely the event for you! Teaching will be done predominantly by ear, but sheet music will be available for all elements of the course for whoever would prefer to read.
Fiddle Foundations - Angharad Jenkins: Perfect for beginners or those building confidence, this class focuses on the essentials to start your fiddling journey.
Welsh Trad Unlocked - Aneirin Jones: Explore traditional Welsh tunes with creative techniques, expressive playing, and a focus on stylistic depth.
Fiddle Mastery - Patrick Rimes: Aimed at advanced players, this class delves into complex pieces, stylistic refinement, and improvisational skills.
Cello - Jordan Price Williams: This class explores fiddle-inspired techniques like flowing bowing patterns and melodic ornamentation, adding a distinctly Welsh character to your playing.
*Our terms and conditions are outlined at the end of the booking system. It outlines some general conditions but also our refund policy, so please be sure to read it.*
National Trust Stackpole Outdoor Learning Centre
Old Home Farm Yard, B4319, Stackpole, Pembrokeshire, SA71 5DQ United Kingdom